Dyddiad yr Adroddiad

05/25/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Iechyd Meddwl Oedolion

Cyfeirnod Achos

202108712

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ag ymateb i e-bost a anfonodd hi ato ym mis Ionawr 2022.

Wrth ystyried y gŵyn roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd Ms X wedi cael ymateb i’w e-bost a bod y ffaith i’r Bwrdd Iechyd fethu â darparu ymateb wedi peri anghyfleuster iddi. Yn hytrach na chynnal ymchwiliad, gofynnodd i’r Bwrdd Iechyd gwblhau’r canlynol i setlo cwyn Ms X:

a) Ymddiheuro i Ms X am yr oedi cyn ymateb i’w e-bost

b) Darparu i Ms X ymateb i e-bost ar 4 Ionawr 2022