Dyddiad yr Adroddiad

08/26/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Iechyd Meddwl Oedolion

Cyfeirnod Achos

202202446

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs X am agweddau ar ei gofal o dan y Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Oedolion. Er bod Mrs X wedi cael ymateb ffurfiol i gŵyn gan y Bwrdd Iechyd, dywedodd wrth swyddfa’r Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd wedi mynd i’r afael yn llwyr â’i chwyn ynghylch y gwasanaeth a gafodd gan ei Nyrs Seiciatrig Gymunedol.

Penderfynodd yr Ombwdsmon y byddai’n fuddiol i Mrs X gael ymateb pellach gan y Bwrdd Iechyd. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon a chafodd gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymateb i bryderon Mrs X o fewn 30 diwrnod gwaith.