Dyddiad yr Adroddiad

09/29/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Iechyd Meddwl Oedolion

Cyfeirnod Achos

202202883

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X na roddodd y Bwrdd Iechyd ymateb i’w ‘bwrdd stori claf’ a gyflwynodd ym mis Mai 2021.
Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Bwrdd Iechyd, a chytunodd i ddarparu ymateb i Ms X erbyn 20 Hydref 2022. Cytunodd hefyd i ymddiheuro i Ms X am yr oedi yn ei ymateb. Derbyniodd yr Ombwdsmon y camau gweithredu hyn wrth setlo cwyn Ms X ac fel dewis amgen i ymchwiliad.