Dyddiad yr Adroddiad

09/28/2022

Achos yn Erbyn

Fferyllfa yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202203838

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr B ei fod yn cael anawsterau gyda’i gyflenwad meddyginiaeth yn y Fferyllfa. Cwynodd ymhellach, er gwaethaf cyflwyno cwyn ffurfiol gyda chymorth eiriolwr, nad oedd ef na’i eiriolwr wedi derbyn ymateb.

Roedd yr Ombwdsmon yn pryderu nad oedd y Fferyllfa wedi ymateb i Mr B eto ac felly cysylltwyd â’r Fferyllfa. Cytunodd y Fferyllfa y byddai’n cyhoeddi ymddiheuriad ysgrifenedig ac ymateb ffurfiol o fewn 14 diwrnod gwaith i lythyr penderfyniad yr Ombwdsmon. Derbyniodd yr Ombwdsmon hwn fel datrysiad i gŵyn Mr B.