Dyddiad yr Adroddiad

09/27/2022

Achos yn Erbyn

Canolfan Feddygol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202203692

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X na wnaeth y Feddygfa ymateb i’w chŵyn, a gyflwynodd hi ym mis Tachwedd 2021, ynghylch methu â’i hatgyfeirio am sgan dwysedd esgyrn y mae Ms X yn credu a allai fod wedi cyflymu diagnosis cynharach o osteoporosis.

Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Feddygfa, a chytunodd i ddarparu ymateb i gŵyn Ms X erbyn 19 Hydref 2022. Yn ogystal, cytunodd i ymddiheuro i Ms X am yr oedi wrth ymateb i’w chŵyn ac i ddarparu esboniad iddi am yr oedi. Derbyniodd yr Ombwdsmon y camau gweithredu hyn fel datrysiad i gŵyn Ms X ac fel dewis amgen yn lle ymchwiliad.