Dyddiad yr Adroddiad

10/14/2022

Achos yn Erbyn

Canolfan Feddygol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202203502

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X nad oedd wedi cael ymateb gan y Practis yn dilyn y gŵyn a wnaeth ym mis Mawrth 2022 ynghylch y gofal a’r driniaeth a gafodd yn sgil ei boen yn ei ysgwydd.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Practis wedi methu darparu diweddariadau rheolaidd ac ystyrlon ac nad oedd wedi cyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn.
Cytunodd y Practis i gwblhau’r canlynol er mwyn setlo cwyn Mr X o fewn 4 wythnos, fel dewis arall yn lle bod yr Ombwdsmon ymchwilio iddo:
a) Ysgrifennu at Mr X gydag ymddiheuriad am y methiant i ddarparu diweddariadau rheolaidd ac ystyrlon
b) rhoi esboniad am yr esgeulustod hwn
c) rhoi ymateb i’r gŵyn.