Dyddiad yr Adroddiad

06/22/2022

Achos yn Erbyn

Canolfan Feddygol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202005705

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs A fod y Practis Meddyg Teulu (“y Practis”) wedi methu â darparu gofal boddhaol i’w mam, Mrs B, a bod hyn wedi cyfrannu at ei dirywiad cyflym terfynol ym mis Ebrill 2020. Yn ogystal, dywedodd Mrs A nad oedd y modd yr ymdriniodd y Practis â’i chŵyn yn ddigonol nac yn gadarn. Cwynodd Mrs A hefyd am y gofal nyrsio cymunedol a ddarparwyd, y Bwrdd Iechyd ac am ymgynghoriad dros y ffôn gyda Meddyg Teulu y Tu Allan i Oriau ar 15 Ebrill. Yn olaf, cwynodd Mrs A am Oncolegydd Ymddiriedolaeth GIG Felindre (“Ymddiriedolaeth”) a’u dull cyfathrebu â’r teulu yn ogystal â’r ffordd yr oedd yr Ymddiriedolaeth yn delio â chwynion.

Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon, yn gyffredinol, fod yr ymgynghoriadau gan y meddygon teulu yn briodol ac na ellid bod wedi rhagweld dirywiad cyflym na marwolaeth Mrs B. Fodd bynnag, o ystyried dirywiad sydyn Mrs B, byddai ymgynghoriad wyneb yn wyneb wedi bod yn ddefnyddiol, yn enwedig gan ei fod wedi achosi oedi i’r teulu yn ddiweddarach wrth geisio cael tystysgrif marwolaeth. Er na wnaeth y diffyg hwn gyfrannu at ddirywiad sydyn Mrs B, na newid y canlyniad trist, ychwanegodd hyn yn ddiangen at drallod y teulu ar adeg anodd. I raddau cyfyngedig, cafodd y gŵyn yn erbyn y Practis Meddyg Teulu ei chadarnhau.

Canfu’r Ombwdsmon ddiffygion hefyd yn y gwaith cadw cofnodion gan y Nyrsys Ardal a fethodd â darparu gwybodaeth trosglwyddo ddigonol ar gyfer parhad gofal. Cafodd cofnodion eu hychwanegu wedyn hefyd ar ôl i Mrs A gwyno. Er i’r ymchwiliad ddod i’r casgliad nad oedd ymweliad cartref gan y Meddyg Teulu y Tu Allan i Oriau yn angenrheidiol yn dilyn yr ymgynghoriad dros y ffôn, o ystyried bod pob arwydd bod Mrs B yn debygol o fod yn agos at farw, dylid bod wedi trafod hyn gyda Mrs A er mwyn ei pharatoi’n well. Canfu’r Ombwdsmon fod y methiannau hyn wrth gyfathrebu wedi achosi anghyfiawnder i Mrs A a’r teulu gan ei fod wedi ychwanegu at eu trallod ar adeg anodd iawn, a chafodd yr agwedd hon ar y gŵyn yn erbyn y Bwrdd Iechyd ei chadarnhau.
Sylwer: Mae crynodebau’n cael eu paratoi o bob adroddiad a ddarperir gan yr Ombwdsmon. Fe all y crynodeb hwn gael ei ddangos ar wefan yr Ombwdsmon ac fe all gael ei gynnwys mewn cyhoeddiadau gan yr Ombwdsmon a/neu mewn cyfryngau eraill. Os hoffech chi drafod y defnydd o’r crynodeb hwn, cysylltwch â swyddfa’r Ombwdsmon.

Canfu’r Ombwdsmon ddiffygion gweinyddol ynghylch dogfennau a chyfathrebu gan yr Oncolegydd a fethodd â rhoi gwybod i feddyg teulu Mrs B am newid sylweddol yn ei thriniaeth a chopïo gohebiaeth gyda’r meddyg teulu i Mrs B. Roedd methiant hefyd i gyfleu gwybodaeth arwyddocaol am ddirywiad Mrs B i dimau clinigol yn dilyn cyswllt Mrs A â’i Llinell Gymorth. Roedd yr Ombwdsmon yn feirniadol hefyd o’r ffordd roedd yr Ymddiriedolaeth wedi ymdrin â’r gŵyn. Nid oedd yr ymchwiliad yn gadarn ac nid oedd wedi canfod sawl diffyg a nodwyd gan yr Ombwdsmon. Roedd gwallau ffeithiol hefyd yn ei hymateb i’r cwynion. Roedd y diffygion hyn wedi achosi mwy o drallod ac anghyfiawnder i’r teulu, a chafodd yr agweddau hyn ar y gŵyn yn erbyn yr Ymddiriedolaeth eu cadarnhau.

Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r cyrff cyhoeddus ymddiheuro i Mrs A am y diffygion a nodwyd. Ar ben hynny, gwnaed argymhellion i sicrhau bod y Bwrdd Iechyd yn cadw cofnodion yn well. Gofynnwyd i’r Ymddiriedolaeth hefyd adolygu ei phrosesau ynghylch gwasanaeth y Llinell Gymorth i wella’r ffordd y mae gwybodaeth glinigol arwyddocaol yn cael ei chyfleu.