Dyddiad yr Adroddiad

02/10/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202206465

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Ms A fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi methu ag ymateb i gŵyn a wnaeth ym mis Ionawr 2022.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod oedi sylweddol wedi bod gan y Bwrdd Iechyd gydag ymateb i gŵyn Ms A a bod hyn wedi achosi anhwylustod a rhwystredigaeth i Ms A. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwilio.

Gofynnodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro wrth Ms A a chynnig talu iawndal o £150 iddi’n cydnabod yr oedi a achoswyd ganddo. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd i ymateb i gŵyn Ms A o fewn pythefnos.