Dyddiad yr Adroddiad

08/17/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202201750

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd y Cyngor Iechyd Cymuned i’r Ombwdsmon ar ran Ms E, ynghylch yr oedi sylweddol mewn ymateb i gŵyn ffurfiol a gyflwynwyd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn 2020. Yn dilyn marwolaeth trist ei Mam ym mis Hydref 2020, cwynodd Ms E yn ffurfiol i’r Bwrdd Iechyd ynghylch y driniaeth a gafodd ei mam cyn ei marwolaeth.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi cydnabod ym mis Mai 2022 fod yr ymateb drafft i’r gŵyn ar waith, ond roedd hyn yn arafach na’r disgwyl oherwydd salwch ac absenoldeb staff ynghyd â phwysau difrifol ar wasanaethau. Fodd bynnag, roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod ymateb disgwyliedig y Bwrdd Iechyd ymhell y tu hwnt i unrhyw amserlen resymol.

Gofynnodd yr Ombwdsmon a chytunodd y Bwrdd Iechyd y byddai yn darparu ymddiheuriad ysgrifenedig pellach i Ms E am yr oedi parhaus, i ymateb yn llawn i’w chwyn i Ms E, i gynnig iawndal ariannol gwerth £500 am y amser a’r trafferth y gellid fod wedi’i osgoi a achoswyd gan yr oedi sylweddol. Hefyd, dylid atgoffa holl glinigwyr y Bwrdd Iechyd bod ganddynt gyfrifoldeb fel rhan o broses ‘Gweithio i Wella’, o fewn 20 diwrnod gwaith.