Dyddiad yr Adroddiad

08/22/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202202909

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss X nad oedd wedi cael ymateb gan y Bwrdd Iechyd yn dilyn ei chwyn a wnaeth iddo ym mis Tachwedd 2021 am y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd iddi yn y cyfnod cyn geni ei merch.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi cyhoeddi ymateb i gŵyn. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i gwblhau’r canlynol i setlo cwyn Miss X erbyn 19 Medi 2022, fel dewis amgen i’r Ombwdsmon ymchwilio iddi:

a) Ysgrifennu at Miss X gydag esboniad ac ymddiheuriad am feth â darparu diweddariadau yn rheolaidd ac yn ystyrlon

b) Egluro’r oedi cyn darparu ymateb i gŵyn

c) Darparu ymateb i gŵyn.