Dyddiad yr Adroddiad

12/08/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202104968

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Roedd Mr X yn 78 oed, yn dioddef o ddiabetes math 2 (ar inswlin), pwysedd gwaed idiopathig yr ysgyfaint, methiant y galon, canserau blaenorol yn yr ysgyfaint a’r colon, ffibriliad atrïaidd, ac osteoarthritis. Cwynodd Mrs X am y driniaeth a gafodd ei diweddar ŵr, Mr X, gan ei feddyg teulu ar 17 Chwefror 2021 a gan yr OOHGP ar 21 Chwefror. Ar 9 Chwefror 2021, cafodd Mr X y brechiad COVID-19 (“y brechiad”). Dywedodd Mrs X fod brechiad Mr X wedi ei wneud yn sâl a bod y ddau GPS wedi anwybyddu ei phryder am gyflwr Mr X oherwydd y brechiad.
Canfu’r Ombwdsmon na chafodd pryderon am y brechiad eu codi yn yr ymgynghoriadau. Canfu hefyd nad oedd unrhyw arwydd bod unrhyw symptom roedd Mr X yn eu cyflwyno yn gysylltiedig â’r brechiad a hyd yn oed petai amheuaeth o gysylltiad, ni fyddai wedi dylanwadu ar ei reolaeth. Canfu’r Ombwdsmon fod yr ymgynghoriadau a’r triniaethau o safon resymol. Ni chafodd y gŵyn ei chadarnhau.