Dyddiad yr Adroddiad

12/07/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202204912

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs X nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi rhoi ymateb iddi i’r gŵyn a gyflwynodd iddo 10 mis yn ôl.

Penderfynodd yr Ombwdsmon y bu oedi yn ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn, a arweiniodd Mrs X i gysylltu â’r Ombwdsmon. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i roi ei ymateb i’r gŵyn ac ymddiheuro am yr oedi. Cytunodd hefyd i dalu iawndal o £250 i Mrs X i gydnabod yr amser a’r drafferth a gafodd.