Dyddiad yr Adroddiad

10/17/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202204142

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X fod oedi wedi bod cyn i’r Bwrdd Iechyd ymateb i’w chŵyn am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei mab yng nghyswllt tiwmor anfalaen ar yr ymennydd.
Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Bwrdd Iechyd, a chytunodd i ymateb i gŵyn Ms X erbyn 27 Hydref 2022. Cytunodd hefyd i ymddiheuro i Ms X am yr oedi cyn ymateb.
Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod hyn yn ddatrysiad digonol yn lle ymchwilio i’r gŵyn.