Dyddiad yr Adroddiad

03/10/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202107247

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Mynegodd Mr X bryderon wrth y Bwrdd Iechyd ynghylch ei gyfathrebu ynghylch cyflwr ei ddiweddar wraig, ac nad oedd ei chofnodion meddygol yn adlewyrchu’r feddyginiaeth yr oedd yn ei derbyn.
Cwynodd Mr X wrth yr Ombwdsmon nad oedd wedi cael ymateb y Bwrdd Iechyd, 3 mis ar ôl cyflwyno ei gŵyn.
Dywedodd y Bwrdd Iechyd wrth yr Ombwdsmon fod ei ymateb yn gofyn am fewnbwn ychwanegol cyn cwblhau ond cytunodd y byddai’n cael ei gwblhau a’i gyhoeddi erbyn 7 Ebrill 2022, ynghyd ag ymddiheuriadau i Mr X am yr oedi cyn ymateb i’w bryderon.