Dyddiad yr Adroddiad

02/24/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202206827

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A am gamweinyddu gan y Bwrdd Iechyd wrth ddelio gyda’r gwyn a gyflwynwyd ganddo ar 13 Hydref 2022, ac am yr oedi afresymol ac anesgusodol wrth ddelio gyda’r broses gwynion. Cwynodd am ddiffyg proffesiynoldeb staff y Tîm Pryderon wrth ofyn am ffurflen awdurdodi gan ei ddiweddar fam, a thrwy ddangos amarch atynt fel teulu yn eu profedigaeth, a thrwy ddychwelyd y ffurflen a lofnodwyd ac a gyflwynwyd ganddo yn wreiddiol ar 24 Hydref 2022.

Wrth ystyried ei gwyn, roedd yr Ombwdsmon yn bryderus ynghylch y modd roedd y Bwrdd Iechyd wedi ymdrin â Mr A ac wedi delio gyda’r mater hon. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymgymryd â’r canlynol i setlo ei gwyn, yn lle ymchwiliad llawn iddi: I ymddiheuro am ofyn am lofnod awdurdod gan ei ddiweddar fam ac am yr oedi (cwblhawyd y term hwn); I gynnig taliad o £100, o fewn 1 mis, i adlewyrchu’r trallod achoswyd a’r oedi ac, yn olaf, i ddarparu, o fewn 3 mis, ymateb llawn i’w gwyn.