Dyddiad yr Adroddiad

02/02/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202206603

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms S, er iddi fynegi pryderon am ei merch ym mis Mehefin 2022, nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi rhoi ymateb i’w chwyn iddi.

Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad bod y Bwrdd Iechyd wedi methu â rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Ms S a’i fod wedi methu â chydymffurfio â’i drefn gwyno statudol.

Yn lle ymchwiliad, ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro am yr oedi a darparu ymateb ffurfiol i Ms S o fewn 30 diwrnod gwaith.