Dyddiad yr Adroddiad

09/29/2021

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202102777

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A na wnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ddiweddaru ei statws brechu Covid, er iddo roi sicrwydd iddo y byddai’n cael ei ddiweddaru a’i rannu gyda’i feddyg teulu yn Lloegr mewn modd amserol. Cyflwynodd Mr A gŵyn i’r Bwrdd Iechyd, ond dywedodd nad oedd y broses gwyno’n glir, ac ni dderbyniodd ymateb i’w bryderon.

Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad er bod y Bwrdd Iechyd yn deall ei fod wedi datrys y broblem a diweddaru statws brechu Mr A, nid oedd ei gofnodion wedi cael ei ddiwygio yn y saith mis oedd wedi mynd heibio ers y brechiad. Roedd yr oedi o ran diwygio’r cofnodion wedi atal Mr A rhag gallu teithio a gweithio dramor. Yn ogystal, doedd dim tystiolaeth fod Mr A wedi derbyn unrhyw ddiweddariadau nac ymateb ysgrifenedig terfynol i’w bryderon.

Ceisiodd a sicrhaodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ddiweddaru statws brechu Mr A ac egluro’r oedi o ran ei ddiwygio. Yn ogystal, cyflwyno ymateb cŵyn i Mr A a chynnig ymddiheuriad am y diffyg diweddariadau a’r oedi yn y broses gwynion.