Dyddiad yr Adroddiad

12/21/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202206233

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A fod y Bwrdd Iechyd wedi methu rhoi ymateb i gŵyn iddi yn unol â chytundeb yr oedd wedi’i wneud yn flaenorol gyda swyddfa’r Ombwdsmon (cyf: 202204472). Dylai’r ymateb i’r gŵyn fod wedi cael ei anfon at Mrs A erbyn 30 Tachwedd 2022.

Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Bwrdd Iechyd a chytunodd i gwblhau’r camau canlynol o fewn 6 wythnos:

a) Ymddiheuro i Mrs A am yr oedi pellach wrth ddarparu’r ymateb i’r gŵyn.

b) Gwneud taliad amser a thrafferth o £100 i Mrs A i gydnabod yr oedi pellach a gorfod cysylltu eto â swyddfa’r Ombwdsmon.

c) Rhoi’r ymateb i’r gŵyn.

Derbyniodd yr Ombwdsmon y camau gweithredu a nodir uchod yn lle cyhoeddi Adroddiad Arbennig.