Dyddiad yr Adroddiad

10/19/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202203307

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X wrth y Bwrdd Iechyd ym mis Ionawr 2022 ynghylch y gofal a’r driniaeth a gafodd ei gŵr cyn iddo farw. Adeg cwyno i’r Ombwdsmon, ym mis Awst, nid oedd Ms X wedi cael ymateb ond dywedwyd wrthi fod y mater yn destun ymchwiliad.

Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus o nodi nad oedd Ms X wedi cael unrhyw ddiweddariadau ystyrlon gan y Bwrdd Iechyd ynghylch cynnydd ei hymchwiliad. Felly, cytunodd y Bwrdd Iechyd i gymryd y camau canlynol erbyn 31 Hydref: –

1. Ymddiheuro i Ms X am fethu rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddi yn rheolaidd ac yn ystyrlon.

2. Cynnig taliad o £100 am amser a thrafferth i gydnabod y dulliau cyfathrebu gwael ac am iddi orfod cysylltu â swyddfa’r Ombwdsmon.

3. Cyhoeddi’r ymateb erbyn 31 Hydref 2022 fan bellaf.