Dyddiad yr Adroddiad

08/22/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202202725

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X nad oedd wedi cael diweddariadau rheolaidd nac ymateb gan y Bwrdd Iechyd yn dilyn ei chwyn am y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd i’w mam ar 10 Ionawr 2022.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â darparu diweddariadau rheolaidd ac ystyrlon ac nad oedd wedi cyhoeddi ymateb i gŵyn. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i gwblhau’r canlynol i setlo cwyn Ms X erbyn 19 Medi 2022, yn hytrach na bod yr Ombwdsmon yn ymchwilio iddo:

a) Ysgrifennu at Ms X gydag esboniad ac ymddiheuriad am fethu â darparu diweddariadau yn rheolaidd ac ystyrlon

b) Ymddiheuro ac egluro’r rheswm dros yr oedi cyn darparu ymateb i’r gŵyn

c) Cyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn.