Dyddiad yr Adroddiad

03/26/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202006053

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Mr J am weithredoedd a chyfathrebu’r Bwrdd Iechyd ag ef cyn ac ar ôl llawdriniaeth i fynd i’r afael â thorgest endoriadol eildro yn ei fur abdomenol (meinwe’n rhwygo ar safle craith feddygol sy’n gwella), hernia bylchol paraoesoffagws gyda chwlwm perfedd gastrig rhannol (pan fydd rhan isaf yr oesoffagws, y stumog neu organau eraill yn symud i fyny i’r frest) a gastectomi llawes (pan fydd rhan o’r stumog yn cael ei gwahanu a’i thynnu). Yn benodol, roedd Mr J yn anhapus na chafodd ei gwnsela cyn llawdriniaeth, ac na ddywedwyd wrtho y byddai angen iddo lynu wrth drefn fitaminau caeth gydol oes.
Canfu’r Ombwdsmon fod y cwnsela cyn llawdriniaeth a’r cyngor deietig ar ôl y llawdriniaeth a gafodd Mr J yn briodol a’i fod yn cwrdd â chanllawiau perthnasol a oedd ar waith ar y pryd. Cafodd Mr J wybod am y cynigion a gyflwynwyd gan y Bwrdd Iechyd i fynd i’r afael â’i bryderon iechyd cymhleth, ac fe’u cefnogodd bob amser. Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad hefyd fod Mr J wedi cael digon o wybodaeth ddeietig briodol i reoli ei fywyd ar ôl y llawdriniaeth.
Ni chafodd y gŵyn ei chadarnhau.
Canfu’r Ombwdsmon na chafodd Mr J ei bigiad B12 cyntaf yn dilyn ei lawdriniaeth, pan ddywedodd y gwasanaeth Deietegydd y dylai, neu y gwnaed atgyfeiriad i’w feddyg teulu am bigiadau B12 pellach. Fodd bynnag, nid oedd unrhyw dystiolaeth bod unrhyw bryder wedi ei fynegi bod gan Mr J ddiffyg B12. Ar y sail hon, roedd yr Ombwdsmon yn fodlon nad oedd y diffygion hyn wedi achosi unrhyw anghyfiawnder i Mr J.