Dyddiad yr Adroddiad

05/25/2021

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202001768

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Miss J am y gofal a’r driniaeth a gafodd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (“y Bwrdd Iechyd”). Ar ôl i’w pherthynas therapiwtig chwalu gyda’r Prif Seicolegydd ym mis Gorffennaf 2018, roedd hi’n bryderus bod y Bwrdd Iechyd wedi methu â delio â’i chais i’r Prif Seicolegydd beidio â chymryd rhan bellach yn y gwaith o reoli ei gofal. Cwynodd hefyd nad oedd y modd yr oedd y Bwrdd Iechyd wedi rheoli ei thriniaeth iechyd meddwl wedi rhoi ystyriaeth briodol i’w hanghenion a’i chefndir unigol.

Canfu’r ymchwiliad y bu gormod o oedi wrth ystyried cais Miss J am fynediad at therapi unigol heb oruchwyliaeth y Prif Seicolegydd, a bod hyn yn fethiant gwasanaeth. Er na fyddai hyn wedi caniatáu i Miss J gael triniaeth briodol yn gynt, roedd y diffyg eglurder dros nifer o fisoedd wedi peri gofid ac ansicrwydd i Miss J, a oedd yn gyfystyr ag anghyfiawnder. Yn unol â hyn, cafodd y gŵyn hon ei chadarnhau. Canfu’r ymchwiliad fod y Bwrdd Iechyd wedi cynnig triniaeth briodol, gan roi ystyriaeth briodol i anghenion a chefndir unigol Miss J. Felly, nid oedd cadarnhad dros yr elfen hon o’r gŵyn.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd ag argymhellion yr Ombwdsmon y dylai ymddiheuro i Miss J a thalu £125 iddi am y trallod a’r ansicrwydd a wynebodd. Cytunodd hefyd i fabwysiadu polisi ar gyfer pob Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol yn nodi sut y dylid rheoli gofal pan fydd diffyg ymddiriedaeth rhwng claf ac uwch reolwr clinigol.