Dyddiad yr Adroddiad

02/01/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202206369

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms P nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi rhoi ymateb iddi i’r gŵyn a wnaeth ym mis Ebrill 2022.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod oedi sylweddol wedi bod gan y Bwrdd Iechyd o ran ymateb i’r gŵyn, a bod hyn wedi achosi anhwylustod a rhwystredigaeth i Mrs P. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Ms P a thalu iawndal o £100 iddi i gydnabod yr oedi. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd i gyhoeddi’r ymateb i’r gŵyn o fewn 4 wythnos.