Dyddiad yr Adroddiad

02/06/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202206293

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs D nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi rhoi sylw digonol i’w phryderon am y driniaeth a ddarparwyd iddi.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi gohirio cofnodi pryderon pellach Mrs D. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Mrs D. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mrs D, rhoi esboniad am yr oedi a chyhoeddi ymateb i’r gŵyn o fewn 6 wythnos.