Dyddiad yr Adroddiad

11/11/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202204019

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X am fod y Bwrdd Iechyd wedi gwrthod cychwyn gwaith Cofnodi Profiadau Bywyd nes y byddai mewn lleoliad sefydlog.
Nododd yr Ombwdsmon fod gwaith Cofnodi Profiadau Bywyd yn rhan o Orchymyn Llys a chynghorodd Mr X y dylai roi gwybod am achos posibl o dorri amodau Gorchymyn y Llys.

Gofynnodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd y byddai’n ysgrifennu at Mr X o fewn un mis calendr gyda diweddariad ystyrlon ar ei sefyllfa ac i egluro pam na allai gynnig gwaith Cofnodi Profiadau Bywyd.