Dyddiad yr Adroddiad

11/10/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202203674

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X am y penderfyniad i asesu ei thad, Mr X, o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl a’r ffordd y cafodd yr asesiad ei gynnal. Cwynodd hefyd am y methiant i sylwi bod teclynnau cymorth clyw Mr X wedi mynd ar goll ar ôl iddo gael ei dderbyn i’r ysbyty. Yn olaf, cwynodd am rai o’r meddyginiaethau a ragnodwyd iddo yn ystod ei arhosiad a hefyd am rai o’r symptomau yr oedd wedi’u datblygu tra’r oedd yn yr ysbyty.
Roedd yr Ombwdsmon yn fodlon bod y penderfyniad i asesu Mr X yn briodol a bod yr asesiad yn ddigonol. Fodd bynnag, roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad ymdriniwyd yn briodol â mater teclynnau cymorth clyw Mr X nac ychwaith y sylw a roddwyd i bryderon Ms X am sut yr oedd wedi datblygu problemau iechyd ychwanegol yn yr ysbyty.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd y byddai, o fewn 20 diwrnod gwaith, yn ysgrifennu at Ms X i ymddiheuro am fethu dod o hyd i’r teclynnau cymorth clyw coll, i egluro sut y byddai’n sicrhau na fyddai hynny’n digwydd eto ac i roi eglurhad am ei feddyginiaeth a’i broblemau iechyd tra’r oedd yn yr ysbyty. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod hwn yn ddatrysiad priodol ac ni chynhaliodd ymchwiliad.