Dyddiad yr Adroddiad

12/17/2021

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202105645

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X nad oedd wedi cael ymateb gan y Bwrdd Iechyd i bryderon a godwyd ganddi yn Ebrill 2021 ynghylch y gofal a’r driniaeth a dderbyniodd ei diweddar daid gan ei feddygfa.

Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus am yr amser hir yr oedd y Bwrdd Iechyd yn ei gymryd i gwblhau ei ymchwiliad. Mae wedi cytuno i ddod i benderfyniad a chyflwyno ei ymateb erbyn 24 Rhagfyr 2021.