Dyddiad yr Adroddiad

11/16/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202203888

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms B fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi gwrthod brechiad iddi rhag y coronafeirws Covid-19.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi cydnabod cwyn Ms B ac wedi penderfynu y dylai ei Phractis Meddyg Teulu ymateb iddi. Fodd bynnag, nid oedd wedi hysbysu Ms B o hyn, ac roedd hefyd wedi methu â rhoi gwybodaeth y dylai fod wedi’i rhoi, a bod hynny wedi achosi rhwystredigaeth ddiangen i Ms B. Penderfynodd yr Ombwdsmon ddatrys y gŵyn heb gynnal ymchwiliad.

Gofynnodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Ms B am ei fethiant i’w hysbysu y byddai’r Practis Meddyg Teulu yn ymateb i’r gŵyn, i dalu iawndal o £50 i Ms B £50 ac i roi rhagor o wybodaeth am y brechiad o fewn 6 wythnos.