Dyddiad yr Adroddiad

06/09/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202108453

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X am safon y gofal iechyd meddwl a ddarparwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (“y Bwrdd Iechyd”). Roedd yn anhapus ag ymateb y Bwrdd Iechyd i’w chŵyn, a chododd y materion a oedd heb gael eu datrys â’r Ombwdsmon. Er bod yr Ombwdsmon wedi penderfynu peidio ag ymchwilio i 2 agwedd ar gŵyn Ms X, canfu nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i’r drydedd agwedd ynghylch rhagnodi dos uwch o feddyginiaeth.

Felly, cytunodd y Bwrdd Iechyd i roi ymateb arall i Ms X erbyn 17 Gorffennaf 2022.