Dyddiad yr Adroddiad

09/21/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202304551

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs E fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi methu darparu ymateb i’w phryderon ynghylch y gofal a’r driniaeth a gafodd yn dilyn prawf ceg y groth oedd yn dangos newidiadau lefel uchel.

Canfu’r Ombwdsmon bod y Bwrdd Iechyd wedi methu darparu diweddariadau rheolaidd ac ystyrlon i Mrs E. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mrs E. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu at Mrs E i ymddiheuro a rhoi eglurhad am y methiant, ynghyd â chyhoeddi ymateb i’r gŵyn o fewn 5 wythnos.