Dyddiad yr Adroddiad

09/03/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Ceredigion

Pwnc

Hyrwyddo cydraddoldeb a pharch

Cyfeirnod Achos

202106365

Canlyniad

Dim angen gweithredu

Derbyniodd yr Ombwdsmon gĹľyn wedi’i hunangyfeirio gan Aelod (“y Cyn Aelod”) o Gyngor Sir Ceredigion (“y Cyngor”), ei fod wedi torri Cod Ymddygiad y Cyngor ar gyfer aelodau.

Dywedodd yr Aelod, yn ystod trafodaeth mewn cyfarfod cyhoeddus y Cyngor am ddarpariaeth Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (“WAST”) yng Ngheredigion, ei fod wedi gwneud sylwadau amhriodol am “fewnfudwyr” i’r sir a “mewnfudwyr” yn cael eu caniatáu i mewn i Gymru gan Lywodraeth Cymru a’r effaith posib ar y gwasanaethau hynny. Ystyriodd ymchwiliad yr Ombwdsmon a allai ymddygiad y Cyn Aelod fod wedi torri paragraffau 4(a), 4(b) a 6(1)(a) o God Ymddygiad y Cyngor.

Cafwyd gwybodaeth gan y Cyngor gan gynnwys trawsgrifiad o’r hyn a ddywedodd y Cyn Aelod yn y cyfarfod, cofnodion cyfarfodydd y Cyngor, a sylwadau gan y Cyn Aelod. Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyn Aelod wedi rhoi’r gorau i’w blaid wleidyddol i eistedd fel aelod annibynnol yn dilyn y digwyddiad. Yn ystod yr ymchwiliad, safodd y Cyn Aelod yn yr etholiad ar 5 Mai 2022 ac ni chafodd ei ethol gan yr etholwyr lleol.

Mewn sylwadau i’r Cyngor a’r Ombwdsmon, dywedodd y Cyn Aelod y bu’r sylwadau yn amhriodol a’u bod wedi’u cymryd mewn ffordd nas bwriadwyd. Canfu’r Ombwdsmon nad oedd sylwadau’r Cyn Aelod yn sylwadau di-alw-amdanynt, yn sylwadau personol, neu’n iaith casineb ac na fyddent wedi cael eu dehongli i gynrychioli safbwyntiau’r Cyngor. Fel y cyfryw, ni fyddent yn gyfystyr â thorri paragraffau 4(a) neu 6(1)(a) y Cod Ymddygiad. Fodd bynnag, penderfynodd yr Ombwdsmon y gallent gael eu hystyried yn ymrannol ac yn amharchus, ac yn awgrymu toriad o baragraff 4(b) drwy fethu â dangos parch ac ystyriaeth at eraill.

Roedd yr Ombwdsmon o’r farn, gan mai yn y pen draw, etholwyr lleol oedd yn penderfynu ar rôl y Cyn Aelod a gan nad oedd bellach yn aelod o’r Cyngor, y byddai unrhyw sancsiwn y gellid ei roi pe bai Pwyllgor Safonau’r Cyngor yn canfod achos o dorri’r Cod Ymddygiad yn gyfyngedig. Felly nid oedd er budd y cyhoedd i gymryd unrhyw gamau pellach mewn perthynas â’r mater.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd angen cymryd unrhyw gamau o dan Adran 69(4)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 mewn perthynas â’r materion yr ymchwiliwyd iddynt.