Dyddiad yr Adroddiad

07/04/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Cymuned Sili a Larnog

Pwnc

Hyrwyddo cydraddoldeb a pharch

Cyfeirnod Achos

202104219

Canlyniad

Dim angen gweithredu

Cwynodd un o weithwyr Cyngor Cymuned Sili a Larnog (“y Cyngor”) fod Cyn Aelod (“y Cyn Aelod”) wedi defnyddio iaith bwlio ac amharchus tuag ato yn ystod sgwrs ffôn ym mis Medi 2021.

Ymchwiliodd yr Ombwdsmon i sefydlu a oedd ymddygiad y Cyn Aelod yn awgrymu toriad o baragraffau 4(b), 4(c), a 6(1)(a) o’r Cod Ymddygiad (“y Cod”).

Cwynodd y cyflogai am ymddygiad y Cyn Aelod i’r Heddlu a’r Ombwdsmon ar ddiwrnod y sgwrs ffôn.  Ymddiswyddodd y Cyn Aelod o’r Cyngor ar yr un diwrnod.  Gwadodd y Cyn Aelod yr honiadau i’r Heddlu, ac ni chymerodd yr Heddlu unrhyw gamau pellach.

Gwrthododd y Cyn Aelod gael ei gyfweld ac nid oedd yn dymuno cymryd rhan yn ymchwiliad yr Ombwdsmon.  Fodd bynnag, cadarnhaodd y Cyn Aelod fod sgwrs ffôn wedi’i chynnal ond dywedodd nad oedd y Cod yn berthnasol ar y pryd gan ei fod wedi ymddiswyddo o’r Cyngor.  Daeth yr Ombwdsmon i benderfyniad felly ar yr ymchwiliad ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael. Daeth i’r casgliad, yn ôl pwysau tebygolrwydd, fod y Cyn Aelod yn Aelod ar adeg yr alwad ffôn a’i fod wedi cyfeirio iaith sarhaus tuag at y gweithiwr y gellid ei hystyried yn amharchus ac yn fwlio.

Daeth yr Ombwdsmon i gasgliad bod ymddygiad y Cyn Aelod yn awgrymu torri paragraffau 4(b), 4(c), a 6(1)(a) o’r Cod.  Fodd bynnag, gan fod y Cyn Aelod wedi ymddiswyddo o’r Cyngor ac nad oedd wedi’i ethol i unrhyw Gyngor yn etholiadau mis Mai 2022, nid oedd yr Ombwdsmon o’r farn bod cymryd unrhyw gamau pellach er budd y cyhoedd.