Dyddiad yr Adroddiad

10/08/2021

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Penfro

Pwnc

Hyrwyddo cydraddoldeb a pharch

Cyfeirnod Achos

202004458

Canlyniad

Rhoddwyd y gorau

Cafodd yr Ombwdsmon gŵyn bod Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Sir Penfro (“y Cyngor”) wedi methu â chydymffurfio â’r Cod Ymddygiad i Aelodau. Honnwyd bod yr Aelod wedi gwneud sylwadau bygythiol am aelod o’r cyhoedd, a allai fod wedi dwyn anfri ar y Cyngor. Penderfynodd yr Ombwdsmon roi’r gorau i’r ymchwiliad oherwydd bod yr ymchwiliad wedi canfod bod yr Aelod yn gweithredu’n bersonol wrth wneud y sylwadau, a bod y dôn a’r sylwadau a gafodd eu cyfnewid gyda’r aelod o’r cyhoedd a wnaeth y gŵyn yn debyg o ran tôn a chynnwys i’r rhai a wnaeth yr Aelod. Oherwydd hyn, daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad nad oedd bellach er budd y cyhoedd iddo barhau â’r ymchwiliad.