Dyddiad yr Adroddiad

12/05/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Dinas Casnewydd

Pwnc

Gwasanaethau i oedolion Agored i Niwed (ee gydag anawsterau dysgu. neu â materion iechyd meddwl)

Cyfeirnod Achos

202102507

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Miss X am y gofal a gafodd ei brawd Mr Y, gan y Cyngor. Roedd yr ymchwiliad yn ystyried a oedd y Cyngor wedi methu glynu wrth argymhellion asesiad annibynnol a gynhaliwyd ym mis Medi 2019, ac a oedd wedi methu gwrando ar Mr Y yng nghyswllt ei leoliad gofal dydd ac wedi methu gwneud darpariaethau priodol unwaith yr oedd yn amlwg bod Mr Y yn anhapus ynghylch mynd i’r ganolfan ddydd.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi dilyn proses briodol o ran yr asesiad annibynnol a bod ei benderfyniad i beidio â dilyn yr argymhellion yn briodol a bod gan y Cyngor hawl i wneud y penderfyniad hwn. Ni chafodd y gŵyn hon ei chadarnhau.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi cymryd camau priodol wrth archwilio lleoliad gofal dydd Mr Y a’r opsiynau oedd ar gael, a bod y Cyngor wedi ystyried barn Mr Y, gan gynnwys cyfeirio Mr Y at eiriolwr er mwyn iddo allu mynegi ei farn. Ni chafodd y gŵyn hon ei chadarnhau.