Dyddiad yr Adroddiad

11/17/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Pwnc

Gwasanaethau i oedolion Agored i Niwed (ee gydag anawsterau dysgu. neu â materion iechyd meddwl)

Cyfeirnod Achos

202204018

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr B am nad oedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi rhoi amserlen yn egluro pa bryd y byddai mewn sefyllfa i wneud trefniadau angenrheidiol fel y gallai ei waith Cofnodi Profiadau Bywyd gychwyn.

Penderfynodd yr Ombwdsmon, er bod y Cyngor wedi diweddaru Mr B yn rheolaidd, nad oedd wedi tawelu ei bryderon a bod hynny wedi achosi rhwystredigaeth gan ei fod yn dweud nad oedd wedi gallu cael gofal a chymorth priodol.
Gofynnodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i egluro wrth Mr B y rhesymau pam nad yw wedi gallu cynnig amserlenni a’i atgoffa o’r diweddariadau y mae wedi’i rhoi hyd yma, o fewn 3 wythnos.