Dyddiad yr Adroddiad

10/04/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Ceredigion

Pwnc

Gwasanaethau i Bobl hŷn

Cyfeirnod Achos

202201388

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs X am y ffordd yr oedd y Cyngor wedi delio â phryder diogelu yr oedd wedi’i godi am ei thad, gan gynnwys yng nghyswllt cadw cofnodion, gwneud penderfyniadau a methu rhoi’r wybodaeth y cytunwyd arni’n flaenorol i’r Cyngor am gyfraith achosion y dibynnwyd arni a sicrhau iawn ariannol i gydnabod ei hamser a’i thrafferth wrth fwrw ymlaen â’i chŵyn.

Gwrthododd yr Ombwdsmon ymchwilio i brif faterion y gŵyn, a oedd eisoes wedi cael eu harchwilio dan drefn gwyno statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol. Fodd bynnag, o ran methiant y Cyngor i gwrdd â rhwymedigaethau y cytunwyd arnynt yn flaenorol, gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Cyngor roi esboniad i Mrs X o fewn 20 diwrnod gwaith o’r defnydd o’r gyfraith achosion yr oedd yn dibynnu arno, ynghyd â £500 ac ymddiheuriad am y methiant i ddarparu’r wybodaeth a’r iawn ariannol y cytunwyd arno’n flaenorol.

Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod hwn yn setliad priodol ac ni wnaeth ymchwilio iddo.