Dyddiad yr Adroddiad

02/28/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir y Fflint

Pwnc

Gwasanaethau i Blant ag anabledd gan gynnwys grantiau cyfleusterau i'r anabl

Cyfeirnod Achos

202204393

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X am y ffordd y deliodd y Cyngor â materion gwasanaethau cymdeithasol a oedd yn ymwneud â’i mab, gan gynnwys taliadau uniongyrchol, asesiadau a chynlluniau.

Canfu’r asesiad fod yr ymchwiliad annibynnol a gomisiynwyd yng ngham 2 yn drylwyr ac yn gymwys. Fodd bynnag, nodwyd dau fater nad oedd yn cyfateb i’r arferion gorau. Cytunodd y Cyngor felly i gymryd y camau canlynol o fewn 2 fis:

1. Adolygu ei drefn gwyno gwasanaethau cymdeithasol i gynnwys ystyried cymwysterau a chefndir ymchwilwyr annibynnol fesul achos, gan gofnodi ei resymau dros ddethol yn yr achosion hynny lle mae cwynion yn cynnwys elfennau o ymarfer gwaith cymdeithasol.

2. Adolygu ei drefn gwyno gwasanaethau cymdeithasol i gynnwys ystyried a ddylid gofyn i’r plentyn roi mewnbwn i’r ymchwilydd annibynnol a’r person annibynnol lle mai ef yw’r defnyddiwr gwasanaeth – gan gynnwys lle bo’r gŵyn yn cael ei gwneud gan berson arall. Byddai ystyriaeth y Cyngor yn hyn o beth yn cael ei gofnodi ar ffeil y gŵyn.