Dyddiad yr Adroddiad

12/22/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Castell-nedd Port Talbot

Pwnc

Gwasanaethau Cymdeithasol Plant

Cyfeirnod Achos

202205741

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms D nad oedd Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi ymateb i gŵyn am y diffyg cefnogaeth a roddwyd i’w merch.

Penderfynodd yr Ombwdsmon, er bod y Cyngor wedi ymateb i Ms D, nad oedd wedi cofnodi ei phryderon fel cwyn. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Ms D. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro i Ms D, rhoi esboniad am y methiant hwn, a chyflwyno ymateb i gŵyn Cam 2 o fewn 3 mis.