Dyddiad yr Adroddiad

10/11/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Gwasanaethau Cymdeithasol Plant

Cyfeirnod Achos

202203815

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss B nad oedd y Cyngor wedi dilyn trefn gwyno’r gwasanaethau cymdeithasol ac nad oedd wedi darparu ymateb digonol. Cwynodd hefyd ei bod yn teimlo nad oedd y Cyngor yn ystyaried buddiannau gorau ei mab

Roedd yr Ombwdsmon yn poeni bod Miss B wedi cael gwybodaeth anghywir am ei chwyn ac nad oedd wedi cael ymateb digonol. Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Cyngor a chytunodd i ymddiheuro a chydnabod cwyn Miss B erbyn 10 Hydref 2022. Cytunodd y Cyngor hefyd i gyhoeddi ymateb cam 1 erbyn 11 Tachwedd 2022.