Dyddiad yr Adroddiad

02/27/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Pwnc

Gwasanaethau Cymdeithasol Plant

Cyfeirnod Achos

202207340

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss F am y ffordd y deliodd Cyngor Sir Wrecsam â’i chwyn am Wasanaethau Cymdeithasol i blant.

Er bod yr Ombwdsmon yn cydnabod, yn dilyn ei ymholiadau gyda’r Cyngor, ei fod wedi ymddiheuro ac egluro i Miss F am y lefel wael o wasanaeth a brofwyd, penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi cyhoeddi ymateb i’r gŵyn. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Miss F. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i gynnig iawndal i Miss F o £125 a chyhoeddi ymateb i gŵyn o fewn 4 wythnos.