Dyddiad yr Adroddiad

08/05/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Bro Morgannwg

Pwnc

Gwasanaethau Cymdeithasol Plant

Cyfeirnod Achos

202202556

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss X fod y Cyngor wedi methu â datrys ei phryderon a godwyd dros 8 mis yn ôl, a bod y Cyngor wedi rhoi gwybodaeth ac arweiniad anghywir iddi cyn iddi wneud ei chwyn.

Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd cwyn Miss X wedi’i datrys eto ac nad oedd wedi cael ymateb digonol i’w phryderon gan y Cyngor. Yn hytrach na chynnal ymchwiliad, cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Cyngor a chytunodd i ymateb i bryderon Miss X erbyn 1 Medi 2022. Derbyniodd yr Ombwdsmon hyn fel datrysiad i gŵyn Miss X.