Dyddiad yr Adroddiad

09/20/2022

Achos yn Erbyn

Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre

Pwnc

Gwasanaethau anfeddygol

Cyfeirnod Achos

202203129

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X, ar ôl i’w ddiweddar wraig gael ei rhyddhau o’r ysbyty, iddo sylwi bod ei modrwy briodas wedi mynd ar goll. Cwynodd Mr X ymhellach na ddilynwyd polisïau a gweithdrefnau’r Ymddiriedolaeth o ran cadw modrwy briodas ei wraig yn ddiogel ac, yn lle ei chloi mewn sêff, fe’i gadawyd ar y cwpwrdd ar erchwyn y gwely.

Nid yw’r Ombwdsmon yn gallu penderfynu a yw’r Bwrdd Iechyd yn atebol am fodrwy briodas diweddar wraig Mr X. Fodd bynnag, nododd yr Ombwdsmon fod camau pellach y gallai’r Ymddiriedolaeth eu cymryd.

Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Ymddiriedolaeth a chytunodd i gwblhau’r camau canlynol erbyn 10 Hydref 2022 er mwyn setlo’r gŵyn:
• Atgoffa aelodau staff perthnasol o’i bolisïau a’i weithdrefnau sy’n gysylltiedig ag eiddo cleifion, ac ysgrifennu at Mr X i ofyn iddo gysylltu â nhw er mwyn cytuno ar iawndal rhesymol.