Dyddiad yr Adroddiad

09/23/2022

Achos yn Erbyn

Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Pwnc

Gwasanaethau Ambiwlans

Cyfeirnod Achos

202101760

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Ar ôl i’w dad, Mr F, ddatblygu arwyddion ei fod wedi dioddef strôc, a arweiniodd at alwad 999, cwynodd Mr D iddi gymryd dros 3 awr i’r ymddiriedolaeth anfon ambiwlans ato. O ystyried bod angen triniaeth ar frys ar bobl sy’n dioddef strôc, roedd Mr D yn benodol bryderus y dylai achos ei dad fod wedi cael statws coch, yn hytrach na’r statws Ambr 1 a neilltuwyd1 iddo. Roedd Mr D hefyd o’r farn, o ganlyniad i’r oedi cyn cyrraedd yr ysbyty, y collwyd cyfle i weinyddu thrombolysis (meddyginiaeth sy’n gweithredu i doddi ceulad gwaed) ac felly cafodd siawns ei dad o oroesi ei gyfaddawdu.
Cafodd ymchwiliad yr Ombwdsmon ei lywio gan gyngor gan Uwch Reolwr Hyfforddi Parafeddygon / Gweithredol ar gyfer Canolfannau Rheoli Brys (“yr Ymgynghorydd”) hynod brofiadol. Ar ôl adolygu’r holl dystiolaeth berthnasol oedd yn ymwneud â’r digwyddiad, roedd yr Ymgynghorydd o’r farn bod statws Ambr 1 yr alwad yn gywir ac na fyddai wedi bod yn briodol cynyddu statws yr alwad i statws Coch. Yn ogystal, canfu’r Ymgynghorydd, ar ôl adolygu logiau argaeledd cerbydau, na gollwyd unrhyw gyfleoedd i anfon ambiwlans yn gynt nag y gwnaethpwyd.
Ar ôl ystyried sylwadau’r Ymgynghorydd, daeth yr Ombwdsman i’r casgliad nad oes modd pennu cyrhaeddiad Mr F yn yr ysbyty y tu allan i’r terfyn amser optimaidd iddo dderbyn thrombolysis i unrhyw fethiant gwasanaeth osgoadwy ar ran yr Ymddiriedolaeth ac, yn unol â hynny, ni fyddai wedi bod yn briodol adolygu effaith unrhyw oedi wrth i Mr F gyrraedd yr ysbyty. O ganlyniad, nid oedd yr Ombwdsmon wedi cynnal y gŵyn.