Dyddiad yr Adroddiad

12/08/2022

Achos yn Erbyn

Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Pwnc

Gwasanaethau Ambiwlans

Cyfeirnod Achos

202200413

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Roedd yr ymchwiliad yn ystyried a oedd yr ymatebwyr/cerbydau ymateb priodol wedi’u hanfon at Mr A (a oedd wedi’i gategoreiddio fel Ambr 1) o fewn amserlen briodol ac a oedd y penderfyniad i deithio ar gyflymder arferol i’r ysbyty (heb ddefnyddio seiren a goleuadau glas) yn briodol.

Canfu’r ymchwiliad fod Mr A wedi’i gategoreiddio’n gywir fel Ambr 1. Er nad oes amser targed ymateb wedi’i ddiffinio ar gyfer categori Ambr 1, nod Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yw ymateb “cyn gynted ag y bo modd”. Canfu’r ymchwiliad fod ymatebwyr a cherbydau priodol wedi’u hanfon at Mr A. Dylai Ambiwlans Brys fod wedi cyrraedd Mr A yn gynt. Fodd bynnag, dyrannwyd un cyn gynted ag y daeth un ar gael. Ni allai’r ymchwiliad benderfynu a fyddai dyrannu Ambiwlans Brys yn gynharach wedi newid y canlyniad clinigol ar gyfer Mr A gan ei fod wedi gorfod aros yn hir y tu allan i’r ysbyty cyn cael ei dderbyn. Canfu’r ymchwiliad fod y penderfyniad i deithio ar gyflymder arferol i’r ysbyty yn briodol. Ni chafodd y gŵyn ei chadarnhau.