Dyddiad yr Adroddiad

11/14/2022

Achos yn Erbyn

Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Pwnc

Gwasanaethau Ambiwlans

Cyfeirnod Achos

202006031

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Mrs X am drylwyrder yr asesiad clinigol gan Ymatebwr Cyntaf Cymunedol (“CFR”, gwirfoddolwyr a gymeradwyir gan yr Ymddiriedolaeth i ymateb i fathau penodol o alwadau brys yn eu cymuned leol) ar 9 Medi 2020 pan ddaeth y CFR at ei thad, Mr Y, yn dilyn galwad 999. Roedd Mrs X yn bryderus hefyd fod oedi wedi bod cyn anfon ambiwlans yn ôl arsylwadau’r CFR a oedd wedi’u cofnodi ac a oedd yn dweud bod cyflwr Mr Y yn “sefydlog”; dywedodd Mrs X nad oedd yr arsylwadau a gofnodwyd yn awgrymu bod y claf yn “sefydlog”.

Canfu’r Ombwdsmon, ar ôl ystyried y cyngor proffesiynol a gafodd gan ei chynghorydd proffesiynol, ei bod yn briodol i anfon CFR ar sail yr wybodaeth a gafwyd yn ystod yr alwad 999. Roedd yr alwad yn un a oedd wedi’i chymeradwyo ymlaen llaw lle gellid anfon CFR, a bod yr asesiad a gynhaliwyd o fewn cwmpas cymhwystra’r CFR ac o fewn terfynau ymarfer derbyniol.

Canfu’r Ombwdsmon hefyd nad oedd y ffaith mai’r CFR a ymatebodd i’r alwad wedi arwain at israddio’r alwad ambiwlans; ni fu newid ym mlaenoriaeth Mr Y. Nid oedd presenoldeb ac arsylwadau’r CFR (sydd fel arfer yn arwydd o glaf sefydlog) yr oedd wedi’i rhannu â’r ganolfan gyswllt wedi cyfrannu at nac wedi achosi oedi cyn anfon ambiwlans. Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon y cwynion.