Dyddiad yr Adroddiad

01/14/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Bro Morgannwg

Pwnc

Gostyngiad yn y Dreth Gyngor

Cyfeirnod Achos

202105653

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss X fod Cyngor Bro Morgannwg (“y Cyngor”) wedi gwrthod derbyn ei chais am Ostyngiad y Dreth Gyngor a’i chŵyn yn sgil hynny.

Canfu’r Ombwdsmon fod Miss X wedi derbyn eglurhad o ran pam nad oedd y Cyngor yn gallu mynd i’r afael â’r materion o dan y Polisi Pryderon Corfforaethol a Chwynion. Nododd yr Ombwdsmon fod y Cyngor wedi ystyried bod Miss X wedi darparu gwybodaeth annigonol i’w alluogi i asesu ei hamgylchiadau ac i wneud penderfyniad ynglŷn â’i hawl. Cynigiodd y Cyngor gyfarfod hefyd i alluogi Miss X i sefydlu pa wybodaeth oedd ei hangen. Fodd bynnag, ni chynhaliwyd y cyfarfod.

Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Cyngor a chytunodd i gysylltu â Miss X o fewn 10 diwrnod gwaith i ail-gynnig y cyfarfod.