Dyddiad yr Adroddiad

04/27/2021

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Gofal Parhaus

Cyfeirnod Achos

202005507

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwyn am y gofal a’r driniaeth a gafodd eu mab. Dywedwyd bod y Bwrdd Iechyd wedi gostwng lefel y gofal a chymorth a ddarparwyd i’w mab yn raddol ac nad oedd eu mab yn derbyn y lefelau a nodwyd mewn adolygiadau blaenorol, yn enwedig y rheini yn 2008 a 2017. Roedd yr achwynwyr yn anfodlon ar ymateb y Bwrdd Iechyd i’w cwyn ac nad oedd adolygiadau arfaethedig wedi’u cynnal.

Gwrthododd yr Ombwdsmon ymchwilio i hyn. Cafodd yr Ombwdsmon fod y gwasanaethau a ddarparwyd yn gyson at ei gilydd â’r cynlluniau a gytunwyd. Fodd bynnag, nid oedd y Bwrdd Iechyd wedi cynnal yr adolygiad a gynigiwyd yn ei ymateb i’r gŵyn na’r adolygiad blynyddol a oedd i fod i gael ei gynnal ar ddechrau 2021.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd y byddai, o fewn 20 diwrnod gwaith, yn trefnu cyfarfod adolygu i ystyried y cymorth a ddarperir ar hyn o bryd a’r cais am gymorth ychwanegol a wnaed gan Mr a Mrs A. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd y byddai’n darparu esboniad ac ymddiheuriad ysgrifenedig am yr oedi cyn cynnal yr adolygiad y cyfeiriwyd ato yn ei ymateb i’r gŵyn a’r adolygiad blynyddol, a oedd i gynnwys manylion unrhyw gamau a gymerwyd i atal hyn rhag digwydd eto.