Dyddiad yr Adroddiad

08/31/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Gofal Parhaus

Cyfeirnod Achos

202202356

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i’w chwyn am gais ôl-weithredol am gyllid Gofal Iechyd Parhaus y GIG, a gyflwynodd ym mis Ebrill 2022.

Dywedodd y Bwrdd Iechyd y bu rhywfaint o gam-gyfathrebu gyda’r mater hwn a’i fod yn credu ei fod yn cael ei reoli drwy’r partïon cyfreithiol ac mai nid cwyn ydyw. I setlo’r gŵyn, cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymateb i gŵyn Ms X o fewn pythefnos.