Dyddiad yr Adroddiad

10/06/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Pwnc

Gofal Parhaus

Cyfeirnod Achos

202203557

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X:
• Roedd ei ddiweddar fam wedi bod yn gymwys i gael cyllid Gofal Iechyd Parhaus (CHC) y GIG.
• Bu oedi wrth i’r Bwrdd Iechyd benderfynu ar yr hawliad CHC ôl-weithredol.
• Nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb yn llawn i’r gŵyn am ddiffygion yn y ddarpariaeth asesu a gofal ar gyfer ei fam ar y pryd.

Nododd yr Ombwdsmon fod cwyn wreiddiol Mr X a’r hawliad am gyllid ôl-weithredol gan y Cyngor Iechyd Cymuned ar gyfer ei fam wedi cael eu cyflwyno ym mis Chwefror 2020. Roedd y llythyr hwn hefyd yn cynnwys pryderon am y diffyg darpariaeth asesu a gofal priodol ar ei chyfer yn y misoedd blaenorol. Roedd y Bwrdd Iechyd yn cydnabod yr oedi wrth ddelio â’r hawliad ond roedd wedi egluro mai’r rheswm am hyn oedd y ffocws ar wasanaethau hanfodol yn ystod pandemig COVID-19 (a oedd yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru ar y pryd).
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i sicrhau’r canlynol:

• Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i deulu Mr X bob mis am hynt yr hawliad CIC ôl-weithredol (nes y daw i ben)
• Darparu ymateb ysgrifenedig i gŵyn Mr X am y diffyg darpariaeth asesu a gofal priodol ar gyfer ei fam rhwng mis Ebrill 2019 a mis Chwefror 2020, o fewn 30 diwrnod gwaith i ddyddiad y penderfyniad hwn, yn unol â darpariaethau Gweithio i Wella.