Dyddiad yr Adroddiad

11/03/2021

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir y Fflint

Pwnc

Gofal Cymunedol (Gofal Dydd / Gofal yn eich Cartref Eich Hun)

Cyfeirnod Achos

202104746

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs X fod ei mam yn derbyn gwasanaeth annigonol wrth y Cyngor mewn cartref. Cwynodd hefyd nad oedd wedi derbyn ymateb i’w chŵyn, a gyflwynodd i’r Cyngor ym mis Awst 2021.

Penderfynodd yr Ombwdsmon y dylai’r Cyngor roi ymateb pendant i Mrs X yn ysgrifenedig (o fewn 3 wythnos) i fynd i’r afael â’i phryderon. Dylai’r ymateb roi ymddiheuriad hefyd, camau unioni ac eglurhad pam nad ymdriniwyd â chŵyn Mrs X yn gynharach. Dylai iawndal ariannol gael ei ystyried hefyd am yr anghyfleustra o orfod cysylltu â’r Ombwdsmon.

Ystyriodd yr Ombwdsmon fod hyn yn benderfyniad priodol i’r gŵyn yn hytrach na chynnal ymchwiliad.